SL(5)XXX - Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae Adran 33(1)(a) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn gwahardd, yn ddarostyngedig i rai eithriadau, dyddodi gwastraff rheoledig neu wastraff echdynnol mewn unrhyw dir nac arno, ac eithrio pan fydd hynny yn unol â chaniatâd amgylcheddol. Mae’n drosedd i dramgwyddo adran 33(1)(a).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 i fewnosod adran 33ZB newydd. Mae hyn yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff Cymru i roi hysbysiadau cosb penodedig am droseddau tipio anghyfreithlon ar raddfa fach. Mae’n bosibl na fydd hysbysiadau cosb penodedig o'r fath yn llai na £150, ac yn ddim mwy na £400. Os na phennir swm, bydd y gosb yn £200. Y mae’n bosibl y bydd gostyngiad am dalu’n gynnar.
Y weithdrefn
Cadarnhaol
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Y Goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ("y Bil") fel y'i cyflwynwyd, felly bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig a byddant yn parhau i fod mewn grym yng Nghymru ar ôl y diwrnod gadael.
Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael, yn amodol ar rai cyfyngiadau (er enghraifft, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu defnyddio'r pŵer hwn i wneud rhywbeth sy'n anghyson ag addasiadau i "ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir" a wnaed gan Weinidogion y DU o dan y Bil).
Ni fydd y Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru (na Chynulliad Cenedlaethol Cymru) addasu unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir. Rhoddir pŵer i addasu holl ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir i Weinidogion y DU; mae hyn yn cynnwys y pŵer i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir mewn meysydd datganoledig, heb yr angen am ganiatâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Weinidogion Cymru.
Felly, os bydd Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn defnyddio eu pwerau i addasu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a gedwir, bydd pŵer Gweinidogion Cymru i addasu'r Rheoliadau hyn yn gyfyngedig, fel na all Gweinidogion Cymru wneud dim sy'n anghyson â'r addasiad a wneir gan Weinidogion y DU.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
10 Hydref 2017